Рет қаралды 15
I ddiwallu anghenion pob un o’r disgyblion yn Ysgol Uwchradd Whitmore, mae staff addysgu wedi sefydlu ardal ddysgu yn yr awyr agored. Nod y gwaith hwn yw cefnogi ymgysylltiad pob un o’r disgyblion, gan gydnabod bod angen ymagwedd bwrpasol a theilwredig ar rai disgyblion. Mae’r ardal yn cynnwys caban pren, twnnel polythen, gwelyau plannu uwch a chwt potiau. Mae disgyblion yn dewis y llwybr hwn ac yn dilyn y cymhwyster ‘Dysgu yn yr Awyr Agored’. Gellir defnyddio’r cynnyrch yn yr ardd yn sesiynau pobi wythnosol yr ysgol, ac mewn sesiynau coginio eraill.