Lyrics/Geiriau: Wel mae'r lliwiau'n dal i droi o dy gwmpas Yn chwyrlio oddi amgylch dy ben Ond wyt ti 'di colli golwg ar bwrpas Y'r 'oll ti'n weld 'di canfas wen Ac os daw unrhyw baent ar ei gyfil Mae'n siŵr o fod yn ddu neu'n wyn A ti'n d'eud bod chdi 'di gorffen dy ymchwil Ond dwi'n siŵr fod mae mwy o liwiau na hyn Mae'n rhaid bod mwy o liwiau na hyn A weli di'r bysgod yn nofio yn y môr, heb swildod A clywed di'r adar mân yn canu yn y coed, heb swildod Pam bod chdi a fi'n weld hi'n anodd tori'n rhydd? Ond meddyliau sy'n ein dallu ni o guriad braf y dydd Mae'r planed na'n dal i droilli o gwmpas Yn chwyrlio oddi amgylch yr haul Ond di'r haul dim chwaith yng nghanol ei deyrnas Mae mwy o sêr na hyn i'w cael Ond yn ôl rhai does dim rheswm nag ymchwil Mae i gyd i lawr yn du a gwyn A mae nhw'n dweud bod nhw di gorffen eu hymchwil Ond dwi'n siŵr bod mwy i fywyd na hyn Mae'n rhaid bod mwy i fywyd na hyn A weli di'r bysgod yn nofio yn y môr, heb swildod A clywed di'r adar mân yn canu yn y coed, heb swildod Pam bod chdi a fi'n weld hi'n anodd tori'n rhydd? Ond meddyliau sy'n ein dallu ni o guriad braf y dydd A weli di'r bysgod yn nofio yn y môr, heb swildod A clywed di'r adar mân yn canu yn y coed, heb swildod Pam bod chdi a fi'n weld hi'n anodd tori'n rhydd? Ond meddyliau sy'n ein dallu ni o guriad braf y dydd Pam bod chdi a fi'n weld hi'n anodd tori'n rhydd? Ond meddyliau sy'n ein dallu ni o guriad braf y dydd