Рет қаралды 53
Fel Prifddinas Cymru yng nghanol y bywyd diwylliannol Cymreig, mae’r byd yn eiddo i chi ym mwrlwm Caerdydd. Ond ar ôl diwrnod hir yn mwynhau hynt a helynt y brifddinas, mae angen lle ar bawb i’w alw’n gartref, a man saff a diogel i’ch caniatáu i fod yn chi’ch hun. Mae gan Gaerdydd amrywiaeth o ddewisiadau llety ar gael i chi sy’n rhoi mannau i chi eistedd yn ôl ac ymlacio gyda diogelwch 24 awr, mynediad i’n gwasanaethau cymorth myfyrwyr sydd i gyd â Wi-Fi a chyfleustodau’n gynwysedig, gan ganiatáu i chi ymgolli yn eich pwnc.
Nawr eich bod chi’n gwybod beth sydd gan y llety myfyrwyr yng Nghaerdydd i’w gynnig, dysgwch ragor am eich opsiynau yng Nghaerdydd.