Рет қаралды 40
Yn 1895, fe wnaeth tri diwygiwr cymdeithasol arloesol ddechrau sefydlu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er mwyn gwarchod byd natur, harddwch a hanes er mwyn pawb, am byth.
Yn y fideo hwn, byddwn yn canfod beth i'w ddisgwyl yn ein pennod nesaf.
Wrth i ni ddathlu ein 130 mlwyddiant eleni, dyma fwrw golwg yn ôl ar y stori hyd yma. Byddwn yn clywed sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel yr elusen gadwraeth fwyaf yn Ewrop, wedi bod yn gofalu am dai a gerddi hanesyddol hoff, yn ogystal â milltiroedd o arfordir a chefn gwlad, ac mae pob cenhedlaeth wedi chwarae ei rhan.
Drwy gydol ein hanes, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi esblygu i gwrdd ag anghenion pobl a byd natur ar yr adeg hynny. Nid yw’r ddegawd nesaf a thu hwnt i hynny yn mynd i fod yn wahanol ac mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrthi’n cynllunio i addasu a newid. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf rydym yn bwriadu:
Adfer byd natur - nid dim ond ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond ym mhobman.
Rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal at fyd natur, harddwch a hanes.
Ysbrydoli miliynau yn fwy o bobl i ofalu ac i weithredu.
Mae’r nodau hyn yn ffurfio conglfeini ein strategaeth ar gyfer 2025-2035 ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae. Gyda’n gilydd, gallwn warchod byd natur, prydferthwch a hanes - i bawb, am byth.
Gallwch chi fod yn rhan o’r bennod nesaf.
Ewch draw i’r wefan i ganfod mwy am ein strategaeth hyd at 2035: www.nationaltr...
Tanysgrifiwch i'n sianel KZbin: www.youtube.com@nationaltrustcharity/subscribe
Rydym yn gwarchod ac yn gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Gall pawb gymryd rhan, gall pawb wneud gwahaniaeth. Natur, harddwch, hanes. I bawb, am byth. Gallwch gyfrannu i ni drwy www.nationaltr...
Hoffwch ni ar Facebook: / nationaltrust
Dilynwch ni ar Instagram: / nationaltrust