Рет қаралды 117
Bwriad y gwasanaeth newyddion digidol cyffrous yw rhoi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, sy'n astudio yn JOMEC (Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol) ddysgu ac ymarfer sgiliau newydd, sefydlu cysylltiadau a rhoi cipolwg iddyn nhw ar fywyd gwaith newyddiadurwyr, drwy weithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr proffesiynol y diwydiant i greu cynnwys unigryw aml-lwyfan o'r Maes.
Cynhyrchir Llais y Maes 2017 gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd gyda S4C, ITV Cymru Wales a'r Eisteddfod Genedlaethol.