Рет қаралды 723
sainwales.com/...
Mae galw mawr am nodau disglair a phersonoliaeth ddengar y tenor Cymraeg, Trystan Llŷr Griffiths. Yn ogystal â’i boblogrwydd ar lwyfan cyngerdd mae hefyd yn gwneud ei farc ar y llwyfan operatig rhyngwladol, ac wedi gweithio gydag Opéra National de Lorraine, Opera Zürich, Scottish Opera, Opera North a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.
Fodd bynnag, ers i Efa Lois, merch fach Trystan, ddod i'r byd ym mis Tachwedd 2018, mae'r Nadolig wedi dod tipyn yn fwy sbesial i’r tenor fel tad newydd ac felly gofynnodd Trystan i ddau ffrind talentog fynd ati i greu cân Nadolig yn arbennig i Efa fach. Y cyfansoddwr yw’r cerddor dawnus Caradog Williams, ac mae’r geiriau gan y prifardd Ceri Wyn Jones.
Mae’r gân yn son am sut mae dyfodiad baban newydd i’r tŷ yn gwneud i ni’r oedolion ail edrych ar y Nadolig o’r newydd a sylweddoli beth yw gwir ystyr yr Ŵyl.
Recordiwyd y gân yn Stiwdio Acapela, Pentyrch, Caerdydd gan Hywel Wigley gyda Caradog Williams ar y piano a Rhys Taylor ar y sacsoffon. Rhyddhawyd albwm gyntaf Trystan ar label SAIN yn 2015 ac ers hynny mae Trystan wedi dilyn gyrfa lwyddiannus iawn. Mae gweddill y mis yn hynod brysur i’r tenor o Glunderwen, Penfro, hefyd, gyda chyngherddau yn y Brighton Dome ar Ragfyr 8fed gyda Cherddorfa’r Royal Philharmonic, yna'r Meseia yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd gyda Cherddorfa Yr Opera Genedlaethol ar Ragfyr 11eg, cyn teithio’r i’r Royal Festival Hall, Llundain ar Ragfyr 15fed i gymryd rhan mewn cyngerdd ‘The Glory of Christmas’ gyda Cherddorfa’r Philharmonia a Bernard Cribbins.