Рет қаралды 2,291
A gaf fi sefyll fory O fore gwyn tan hwyr,
Yn gwylio'r glanne eto Draw 'mhell ar Benrhyn Gŵyr?
A gaf fi fynd i oedi'n hir Bob dydd nes daw y llong i dir?
A gaf fi rewi'n dalog Fel pâl wrth ddrws ei ffau,
Yn gwrando sgrech gwylanod O gwmpas ogofâu?
A gaf i gyfarch llonge'r byd Yn mynd dros lwybre'r môr o hyd?
A gaf fi bwyth o'r cefnfor A hwyliodd Bryn mor hawdd?
Neu ddeigryn bach o'i stori Yng nghregyn gwyn Penclawdd?
A gaf fi gadw'r awyr dlos Pan gododd Bryn y mast i'r nos?
A gaf fi gip o'r gole Sy'n chwincio ar y graig,
Neu donne gwyllt Rhosili, pob un mewn tymer draig?
A gaf fi alw'n hir, 'Hwrê! Mae Bryn fy mrawd yn dod sha thre' !'