Рет қаралды 22
Clip byr yn egluro sut mae asesiadau digidol yn gweithio yn Hywel Dda.
Trawsgrifiad
Mae Asesiadau Digidol yn wasanaeth ar-lein newydd sydd â’r nod o wella cyfathrebu rhyngoch chi a’r tîm Hywel Dda sy’n gyfrifol am eich gofal.
Mae’r Asesiad Digidol yn rhoi mynediad i chi i PROMs (mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion) lle gallwch ddisgrifio eich symptomau ac ansawdd eich bywyd.
Diben yr Asesiad Digidol yw gwneud y mwyaf o amser eich apwyntiad
cael sgwrs ddwyffordd gyda’ch gweithiwr gofal iechyd gwella eich llesiant, eich canlyniadau a’ch adferiad ac olrhain datblygiad eich cyflwr.
Anfonir yr Asesiad Digidol atoch drwy e-bost, neu rif ffôn symudol a nodir ar eich cofnod iechyd. Gwnewch yn siŵr bod y manylion yn gywir.
Os na allwch lenwi’r asesiad yn ddigidol, mae dewisiadau eraill ar gael. Cysylltwch â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i wybod mwy.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Yn cefnogi i gyflawni canolbarth a gorllewin Cymru iachach.