Рет қаралды 92
Mewn prosiect ar y cyd â Gorwelion mae Cymru Fyw wedi sgwrsio gyda rhai o artistiaid cyfoes y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i drafod rhai o'r pynciau sy'n bwysig i'w hunaniaeth nhw a'u proses greadigol.
Bydd cyfres o fideos sy'n edrych ar bynciau fel yr iaith Gymraeg, bod yn fenyw yn y diwydiant, cynrychiolaeth LHDTC+, hygyrchedd ac iechyd meddwl yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.
Dyma Catrin Morris, Greta Isaac, Katie Hall a Dead Method yn trafod sut mae'r broses greadigol yn eu helpu nhw gyda'u iechyd meddwl.