No one in the public sector in Newport speaks Welsh?!

  Рет қаралды 426

Sonny Young

Sonny Young

Күн бұрын

Пікірлер: 51
@YnChwarae
@YnChwarae 5 ай бұрын
Dewch nol i ynchwarae Steven. Ni'n methu ti. ❤❤❤
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
Mae dy sianel di'n wych o ran hyrwyddo'r Gymraeg! Da iawn ti! Dal ati!
@rmcode
@rmcode 5 ай бұрын
Da iawn!! Realiti y sefyllfa. Mae cannoedd o gyn disgyblion Ysgolion Cymraeg heb swyddi siarad Cymraeg.
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
Ydy hi'n golygu bod cymaint o bres wedi'i wastaffu i ddysgu Cymraeg i gymaint o bobl ifanc am ddim byd??????????
@rmcode
@rmcode 5 ай бұрын
@@DrosYGymraeg Y broblem yw dyw'r sefydliadau ddim yn cyflogi cyn disgyblion addysg Gymraeg yn y swyddi siarad â'r cyhoedd. Dylai y gallu siarad Cymraeg fod yn sgil hanfodol i'r swyddi yma. Beth arall sy'n drist oedd i fi a thiwtoriaid eraill rhoi llawer o wersi Cymraeg i staff cyngor dinas casnewydd dros y blynyddoedd.
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@rmcode Mae gwaith dy un di a thiwtoriaid eraill mor bwysig o leiaf i drosglwyddo'r Gymraeg i gymaint o bobl ag y medrwch. Da iawn chi i gyd. Un peth dwi wedi sylwi yw bod gormod o bobl yn troi i'r Saesneg er efallai eu bod yn medru cynnal sgwrs yn Gymraeg. Maen nhw'n cymryd Saesneg yn ganiataol! Ond nid eu bai nhw ydy hyn ond bai'r Llywodraeth Cymru am eu bod wedi methu â gwneud y Gymraeg yn iaith fwyafrifol yng Nghymru fel nod i Fesur y Gymraeg. Cywilydd arnyn nhw!! 😞😡🥺😳
@keryntaylor3049
@keryntaylor3049 5 ай бұрын
Rwy'n caru chi, Sonny! Chi'n werth y byd! 💕Gweud y gwir.
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@@keryntaylor3049 Dwi eich yn caru chi hefyd. Rhannwch hwn efo'ch cyfeillion chi. Mae diffyg difrifol yn y Gymraeg yn y gweithle!
@keryntaylor3049
@keryntaylor3049 5 ай бұрын
@@DrosYGymraeg Oes, rwy'n cytuno. Diolch am eich ateb. Ers faint ydych chi'n siarad Cymraeg, os gaf i'n gofyn? Rydych chi'n helpu llawer o bobl i gynyddu eu hyder i siarad Cymraeg. Diolch yn fawr i chi, o'r galon.
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@@keryntaylor3049 Ardderchog! 👍 Dwi wedi dysgu Cymraeg ers blwyddyn a phum mis. Diolch am ledaenu'r geiriau i bobl eraill am fy sianel. 🥰
@keryntaylor3049
@keryntaylor3049 5 ай бұрын
@@DrosYGymraeg Mae hynny'n anhygoel! Byddaf yn parhau i rannu eich fideos ar gyfryngau cymdeithasol 👍🏼
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@@keryntaylor3049 Diolch yn fawr iawn am gefnogi'r Gymraeg.
@ronaldng5073
@ronaldng5073 5 ай бұрын
you'll be very famous... ✊✊
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@@ronaldng5073 😜😂
@joannacariad
@joannacariad 2 ай бұрын
Hi Sonny, you met my brother and sister in Newtown on the weekend. I live in Swansea! If you’re visiting please get in touch
@joannacariad
@joannacariad 2 ай бұрын
Hello Sonny, nes ti cwrdd a fyng frawd a chwaer my y drenewydd dros y penwythnos. D’win byw yn Abertawe os ydech chi’n did yma eto rhoi neges ataf fi
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 2 ай бұрын
@@joannacariadPnawn da! Joanna ydy dy enw? Dwi'n falch o glywed oddi wrthot ti. Ti'n golygu Llio a Sioned? Wyliest ti'r fideo hwn o Abertawe? kzbin.info/www/bejne/l3-sh3-LaK-cnM0
@scopeawl
@scopeawl 5 ай бұрын
Mae'n od bod nhw'n deud bod na section Cymraeg gydyn nhw ac dydyn nhw'n ddim yn cael unrhyw un sy'n siarad Cymraeg!
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@@scopeawl Y peth tristaf yw does neb yn siarad Cymraeg yn yr ysbyty! Be' ydi hawliau cleifion sydd am siarad Cymraeg yn lle Saesneg? Mae Mesur y Gymraeg yn dweud dydi'r Gymraeg yn israddol i'r Saesneg. Ond mae'n gelwydd mawr yn yr achos hwn!😡🥺😳
@scopeawl
@scopeawl 5 ай бұрын
@@DrosYGymraeg Wir! Dwi’n lwcus bod i'n cael Cymraeg a Saesneg am iaith cyntaf i, bydd yn ofnadwy os oedd rhywun Cymraeg sy'n ddim ym siarad llawer o Saes yn fynd i'r Ysbyty ac roedd neb yn gallu deall nhw!! Byddwch chi'n meddwl bod e'n syniad synhwyrol i cael rhywun sy'n gallu siarad Cymraeg yna. Hefyd wnes ti ymweld â Aberystwyth yn yr gorffenol? Clywais i a fy mrawd rhywyn oedd yn rhoi interview i rhywyn amdan Cymraeg ac roeddet ti’n swnio'n debyg iawn i nhw.
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@@scopeawl Do. 😜 Mi fues i yn Aber yn cyfweld a lawer o bobl ar y stryd. 😂Pwy sydd dy frawd? 🤔
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@@scopeawl mis a hanner yn ôl 😀
@scopeawl
@scopeawl 5 ай бұрын
@@DrosYGymraeg O cwl!! Wnes fi a fy mrawd gweld ti te.
@siuchuenyeung3412
@siuchuenyeung3412 5 ай бұрын
TAKE care
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
@@siuchuenyeung3412 Diolch yn fawr iawn.
@scratchjr_programming
@scratchjr_programming 5 ай бұрын
Wow! It is ridiculous! How come?
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
The Welsh Government and the public bodies don't require their job applicants to speak, read and write Welsh fluently to get hired. Their lame excuse is that they cannot exclude those who don't know the language. For example, if a job requires a person to have at least five years of experience in marketing, will you hire those with no experience in marketing? Of course not! This is the lame excuse of the Welsh Government! Don't forget that 17% of the Welsh people want to communicate in their mother tongue but since no one at a public hospital speaks Welsh, they are forced to speak another language! Where are their rights? The Welsh Language Measure, which was passed by the Welsh National Assembly on 7 December 2010, and received royal assent from Her Majesty the Queen on 9 February 2011, makes provision for promoting and facilitating the use of the Welsh language and treating Welsh no less favourably than English. That's a lie. Welsh is way less favorable than English in public hospitals, local councils, etc because their customers cannot use Welsh at those places. www.welshlanguagecommissioner.wales/about-us/the-welsh-language-measure
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 5 ай бұрын
Nid yw Llywodraeth Cymru na chyrff cyhoeddus yn mynnu bod eu hymgeiswyr am swyddi yn siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl i gael eu cyflogi. Eu hesgus cloff yw na allant gau allan y rhai nad ydynt yn gwybod yr iaith. Er enghraifft, os yw swydd yn gofyn bod gan berson o leiaf bum mlynedd o brofiad mewn marchnata, a fyddwch chi'n llogi'r rhai heb unrhyw brofiad mewn marchnata? Wrth gwrs ddim! Dyma esgus cloff Llywodraeth Cymru! Peidiwch ag anghofio bod 17% o'r Cymry eisiau cyfathrebu yn eu mamiaith ond gan nad oes neb mewn ysbyty cyhoeddus yn siarad Cymraeg, maen nhw'n cael eu gorfodi i siarad iaith arall! Ble mae eu hawliau? Cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Rhagfyr 2010 a derbyniodd gydsyniad brenhinol gan Ei Mawrhydi ar 9 Chwefror 2011. Mae o'n gwneud darpariaeth ar gyfer hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg a pheidio a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Dyna gelwydd! Mae'r Gymraeg yn llawer llai ffafriol na'r Saesneg mewn ysbytai cyhoeddus, cynghorau lleol, ac ati oherwydd na all eu cwsmeriaid ddefnyddio'r Gymraeg yn y mannau hynny. www.comisiynyddygymraeg.cymru/amdanom-ni/mesur-y-gymraeg
@keryntaylor3049
@keryntaylor3049 5 ай бұрын
@@DrosYGymraeg 100% 👍🏼👍🏼👍🏼
@digeinwedd
@digeinwedd 4 ай бұрын
Casnewydd!! Dylai fy nhad fod wedi bod yn sâl mis yn gynharach, gwedyn efallai gallwn i fod wedi cwrdd â chi a gwilio'r sioe yn yr ysbyty lmao
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 4 ай бұрын
Mi faswn i wedi bod yn farw erbyn hyn!! 🤣 Wyt ti'n byw yng Nghasnewydd? 🤔
@digeinwedd
@digeinwedd 4 ай бұрын
@@DrosYGymraeg🤣Ydw! Dwi wedi cael fy ngeni yn yr ysbyty yna!
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 4 ай бұрын
@@digeinwedd Ot ti'n siarad Cymraeg efo'r staff yna pan gest ti dy eni yn yr ysbyty?? 😁😂😜
@digeinwedd
@digeinwedd 4 ай бұрын
@@DrosYGymraeg Oedd! Nid dim ond gyda'r staff ond gyda'r babanod i gyd hefyd! Dysgais i lawer o eiriau ohonynt! 😂
@DrosYGymraeg
@DrosYGymraeg 4 ай бұрын
@@digeinwedd 😁😜😂🤣😲😮👍💯🥳
@gordonleach9923
@gordonleach9923 2 күн бұрын
Trist iawn ond sai'n synnu dim. Ces i fy ngeni yng Nghasnewydd a'm magu gerllaw a doedd dim llawer o Gymraeg yno adeg hynny. Mae'n debyg bod y sefyllfa heb wella rhyw lawer ers yr 80au.
How did your Welsh get so good?
22:28
Sonny Young
Рет қаралды 202
Why we can't focus.
12:45
Jared Henderson
Рет қаралды 1,3 МЛН
Гениальное изобретение из обычного стаканчика!
00:31
Лютая физика | Олимпиадная физика
Рет қаралды 4,8 МЛН
coco在求救? #小丑 #天使 #shorts
00:29
好人小丑
Рет қаралды 120 МЛН
99.9% IMPOSSIBLE
00:24
STORROR
Рет қаралды 31 МЛН
So Cute 🥰 who is better?
00:15
dednahype
Рет қаралды 19 МЛН
Palestinian Gen Z: What solution do you prefer for the conflict?
12:01
Corey Gil-Shuster
Рет қаралды 253 М.
25 simple life changes I made to FINALLY be happy!
20:00
Mastering Midlife with Heidi | Heidi Gustafson
Рет қаралды 19 М.
12 Nordic Habits For A Simple & Peaceful Life | Minimalism
17:19
Seve - Sunny Kind Journey
Рет қаралды 784 М.
He nailed Welsh in only 19 months!
13:29
Sonny Young
Рет қаралды 134
How Diplomats Learn Languages Fast | Easy German 585
18:07
Easy German
Рет қаралды 338 М.
Do Brummies support Welsh?
22:51
Sonny Young
Рет қаралды 371
Гениальное изобретение из обычного стаканчика!
00:31
Лютая физика | Олимпиадная физика
Рет қаралды 4,8 МЛН