Рет қаралды 5
Newyddion cyffrous: Mae taith y prosiect Cysylltu Isadeiledd Gwyrdd wedi cyrraedd diweddglo! Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi llwyddo i gyflwyno datrysiadau sy’n seiliedig ar natur, cyfleoedd gwirfoddoli dengar, sesiynau hyfforddi sy’n cyfoethogi a sesiynau lles difyr. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd eu hymrwymiad a’u gwaith caled ar draws ein partneriaeth.
Cadwch lygad am brosiectau a chyfleoedd glasu sydd ar ddod ar draws de-orllewin Cymru. Yn y cyfamser, mwynhewch y fideo isod, sy’n crynhoi’r holl gerrig milltir anhygoel rydym wedi’u cyflawni gyda’n gilydd hyd yn hyn.