Rheoli dy nerfau mewn cyfweliad.

  Рет қаралды 36

Menter Gorllewin Sir Gâr

Menter Gorllewin Sir Gâr

Ай бұрын

Rheoli dy nerfau mewn cyfweliad
Mae'n hollol naturiol i deimlo'n nerfus cyn cyfweliad a gall hyd yn oed fod yn beth da!
Bydd dy nerfau'n cynhyrchu adrenalin ac os gellir eu sianelu'n effeithiol, gall roi hwb i dy gymhelliant, brwdfrydedd a hyd yn oed lefelau hyder!
Ond os wyt yn teimlo fod dy nerfau yn effeithio ar dy berfformiad, rho gynnig i'r canlynol...
Fel rydym wedi pwysleisio yn barod, rhaid paratoi er mwyn sicrhau llwyddiant!
Bydd ymarfer cwestiynau a gwybod hanes y cwmni nid yn unig yn plesio'r cyfwelydd, ond hefyd gwneud i ti deimlo’n fwy hyderus a naturiol wrth ateb cwestiynau.
Does dim pwynt mynd i gyfweliad mewn ffrâm feddwl negyddol. Cofia rwyt wedi cael dy wahodd i’r cyfweliad gan fod y cyfwelydd wedi gweld potensial yn dy gais ac eisiau gwybod mwy.
Bydd cael sgwrs bositif gyda dy hun neu ddarllen negeseuon ysgogol yn ffordd dda o godi lefel dy hunan gred cyn y diwrnod.
Beth am newid cefndir dy ffôn i dy hoff neges bositif cyn y diwrnod er mwyn cadw meddylfryd bositif?
Mae’r ymarfer meddyliol hwn ble rwyt yn canolbwyntio ar ddychmygu dy berfformiad dymunol mewn sefyllfa o dan bwysau mawr fel cyfweliad, yn lleddfu pryder ac yn gwella dy berfformiad yn ôl astudiaethau.
Gall yr ymennydd ei gweld hi’n anodd i wahaniaethu rhwng y cof a'r dychymyg, felly gall ailadrodd sut hoffet i'r cyfweliad fynd ddod yn realiti!
Bydd angen i ti dod o hyd i leoliad cyfforddus, cau dy lygaid a dychmygu'r holl broses yn fanwl iawn cam wrth gam.
Dychmyga dy hun yn cerdded i mewn yn hyderus, ateb
cwestiynau fel rwyt wedi ymarfer a derbyn y swydd!
Bydd cyfleu iaith y corff gywir nid yn unig effeithio ar yr argraff rwyt yn creu ohonot ti dy hun, ond hefyd yn dylanwadu ar sut rwyt yn teimlo.
Gall sefyll gyda dy ben yn uchel ac ysgwyddau wedi ymlacio gynyddu dy hyder er enghraifft.
A oeddet ti’n gwybod gall dal ystum corff cryf am gyn lleied â 2 funud roi hwb i dy hyder yn syth a gwella dy berfformiad mewn cyfweliad?
Beth am drio hyn cyn cerdded drwy'r drws y tro nesaf?
Fel rheol, byddi di’n cael cynnig dŵr wrth gyrraedd dy gyfweliad. Hyd yn oed os nad wyt yn sychedig, derbynia’r cynnig, gan os wyt yn nerfus, mae’n debygol fydd dy geg yn teimlo’n sych, ac felly bydd cael dŵr wrth law yn gysur.
Os wyt yn dod ar draws cwestiwn anodd, cymera lwnc o ddŵr i roi eiliad i dy hun i feddwl am yr ateb perffaith!
Sicrha dy fod wedi cynllunio dy daith i'r cyfweliad ac yn cyrraedd o leiaf 10 munud yn gynnar.
Cofia wenu ar bawb rwyt yn dod ar eu traws wrth gyrraedd. Yn naturiol, byddan nhw'n gwenu nôl a gwneud i ti deimlo'n fwy cyfforddus!
Mae'n naturiol i ruthro tra'n teimlo o dan bwysau, ond cofia nid ras yw cyfweliad! Mae’n iawn i ti gymryd rhai eiliadau i gasglu dy feddyliau cyn ateb cwestiwn heriol.
Pob lwc!
Cysyllta am gymorth pellach- Post@profi.cymru

Пікірлер
Ffug gyfweliad.
7:30
Menter Gorllewin Sir Gâr
Рет қаралды 6
Canu gyda | Singing with: Siani Sionc - Menter Gorllewin Sir Gar
8:44
Menter Gorllewin Sir Gâr
Рет қаралды 4,5 М.
SHAPALAQ 6 серия / 3 часть #aminkavitaminka #aminak #aminokka #расулшоу
00:59
Аминка Витаминка
Рет қаралды 2 МЛН
Win This Dodgeball Game or DIE…
00:36
Alan Chikin Chow
Рет қаралды 38 МЛН
Sgiliau Cymraeg.
3:26
Menter Gorllewin Sir Gâr
Рет қаралды 10
از ۲۲ تا ۳۲ سالگی چی یاد گرفتم؟
14:04
Zahra Jafari
Рет қаралды 6 М.
Mock Interview.
7:56
Menter Gorllewin Sir Gâr
Рет қаралды 17
Blas ar ffilmiau SPF | A taste of SPF films
3:45
Menter Gorllewin Sir Gâr
Рет қаралды 24
Cynllun Profi: Actif Llambed.
5:27
Menter Gorllewin Sir Gâr
Рет қаралды 22
Learn French Fast with Simple Stories | for Beginners | Easy and Slow
12:43
French Made Easy - Le français facile
Рет қаралды 939
Gwydnwch - Resilience (Cymraeg)
3:35
Menter Gorllewin Sir Gâr
Рет қаралды 34
Cynllun Profi Programme, Chloe o'r GIG (with subtitles).
4:54
Menter Gorllewin Sir Gâr
Рет қаралды 18
SHAPALAQ 6 серия / 3 часть #aminkavitaminka #aminak #aminokka #расулшоу
00:59
Аминка Витаминка
Рет қаралды 2 МЛН