Рет қаралды 4
Yn 2021, roedd nifer o gopïau o ‘The Rayoneer’ wedi eu
cyflwyno i’n casgliadau yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru. Dyma oedd y cylchgronau staff ar gyfer Ffatrioedd Courtaulds ar draws y DU. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys 226 rhifyn o 1931 i 1958.
Roedd Courtaulds yn wneuthurwr ffabrig, dillad, ffeibr artiffisial a chemegau wedi’i leoli yn y DU. Cafodd ei sefydlu yn 1794 ac aeth ymlaen i fod yn brif gwmni cynhyrchu ffeibr wedi’i greu gan ddyn ar draws y byd.
Yn ei anterth, roedd Courtaulds yn cyflogi dros 10,000
o bobl ar bedwar safle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Roedd yna dri ffatri yn y Fflint: Aber Works, Deeside Mills a Castle Works; yn ogystal â Maes Glas yn Nhreffynnon. Roedd yn brif gyflogwr yn y Fflint a’r ail gyflogwr mwyaf yn Sir y Fflint.
Ymunwch â ni ar gyfer y nesaf o Acid Free ble byddwn yn cael gwybod mwy am y casgliad a chynnwys The Rayoneer. Byddwn hefyd yn clywed gan gyn weithwyr Courtaulds i ddysgu mwy am eu profiad o weithio yn y ffatrïoedd yn Sir y Fflint.
Diolch i’r archifydd Liz Newman a Suzanne, ein myfyriwr
ymchwil am eu cyfraniadau i’r rhifyn hwn. Diolch yn fawr iawn hefyd i Sandra, Cheryl a Colin am rannu eu profiadau o weithio i Courtaulds.
Os hoffech weld copiau o The Rayoneer yn bersonol, ewch i’n gwefan i weld manylion am sut i drefnu apwyntiad: www.agddc.cymru/
Cerddoriaeth: 'Life in Silico' gan Scott Buckley - rhyddhawyd o dan CC-BY 4.0. www.scottbuckley.com.au