Рет қаралды 80
Rydym yn gobeithio i chi fwynhau dod ar daith gyda ni i weld rhywfaint o waith elusennol Trac Cymru dros y 21+1 mlynedd diwethaf, a bod y detholiad bychan hwn o straeon a ddewiswyd gennym wedi helpu i dynnu sylw at rai o’r ffyrdd gwahanol mae ein traddodiadau cerddorol yn parhau yn berthnasol i Gymru heddiw.
Wrth i’r byd cerddorol ddod allan o’r cysgod a fwriwyd gan y pandemig coronafeirws dros y ddwy flynedd flaenorol, bu Trac Cymru wrthi’n cynllunio datblygiad rhaglen newydd estynedig o ymgysylltu diwylliannol yr hoffem ei rannu gyda rhagor o gymunedau ledled Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Byddwn yn parhau i feithrin rhagoriaeth yn y celfyddydau cenedlaethol ac ochr yn ochr â hyn, dymunwn gael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd cyfranogwyr unigol ar lefel leol.
Bydd eich cefnogaeth chi yn amhrisiadwy wrth ein cynorthwyo i wireddu’r uchelgais hon. Ystyriwch gyfrannu heddiw, gan fuddsoddi mewn datblygu gwaddol celfyddydol er llesiant y genedl yn y dyfodol 👇
cafdonate.cafo...
--
We hope you have enjoyed taking this journey with us through some of the charitable work of Trac Cymru over the last 21+1 years, and we hope that the small selection of stories we picked have helped to highlight some the many different ways that our music traditions remain important for Wales today.
As the music world has been emerging from the shadow that the coronavirus pandemic cast over the previous 2 years, Trac Cymru has been planning the development of an extensive new programme of cultural engagement that we want to roll out to more communities across Wales in the coming years.
We will continue to nurture excellence in the national arts and alongside this we want to make a positive impact on the quality of life of individual participants at a local level.
Your support will be invaluable in helping us to achieve our mission. Please consider making a donation today and invest in developing a cultural legacy for the future wellbeing of the nation 👇
cafdonate.cafo...
Cerddoriaeth/Music: AVANC - Yr Anhygoel Barry
#TRAC21