Ydy'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i'ch busnes?

  Рет қаралды 70

Ofcom

Ofcom

Күн бұрын

Ydi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i'ch busnes? Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein newydd yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar rai gwasanaethau ar-lein i amddiffyn eu defnyddwyr. Mae'n effeithio ar ystod o wahanol fusnesau, mawr a bach - gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau chwilio. Bydd y rheolau newydd yn helpu i sicrhau bod pobl ar-lein - gan gynnwys plant - yn cael eu hamddiffyn rhag cynnwys anghyfreithlon. Ydych busnes chi yn darparu gwasanaeth ar-lein? Os felly, gallai'r cyfreithiau newydd fod yn berthnasol i chi. Gwyliwch i ddarganfod pa fathau o fusnesau y mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol iddynt, ac ewch i’n gwefan i ddarganfod mwy am y Ddeddf Diogelwch Ar-lein: ofcom.org.uk/diogelwch-arlein
TRAWSGRIFIAD:
Ydy'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i'ch busnes?
Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein nawr yn gyfraith yn y DU. Os ydych yn darparu gwasanaeth ar-lein, mae’n bosibl y bydd rheolau Diogelwch Ar-lein newydd Ofcom yn berthnasol i chi.
Mae'r rheolau hyn yn ymwneud â:
• gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr lle gall pobl greu a rhannu cynnwys, neu ryngweithio â'i gilydd;
• gwasanaethau chwilio lle gall pobl chwilio gwefannau neu gronfeydd data eraill; a
• gwasanaethau sy'n cyhoeddi neu'n dangos cynnwys pornograffig.
Dyma ychydig o enghreifftiau o beth yw gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr:
• gwefan neu ap cyfryngau cymdeithasol;
• gwasanaeth rhannu lluniau neu fideo;
• gwasanaeth sgwrsio neu negeseuon gwib, fel ap chwilio am gariad; neu
• wasanaeth chwarae gemau ar-lein neu symudol.
Mae angen i wasanaethau ar-lein amddiffyn defnyddwyr rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon, ac amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol.
Gallai cynnwys anghyfreithlon gynnwys:
• deunydd cam-drin plant yn rhywiol;
• terfysgaeth;
• twyll; neu
• gynnwys sy'n annog hunan-niweidio neu hunanladdiad.
Efallai y bydd gan rai gwasanaethau ar-lein ddyletswyddau ychwanegol i’w cyflawni, fel bod:
• gan bobl fwy o ddewis a rheolaeth dros yr hyn a welant ar-lein;
• gwasanaethau’n fwy tryloyw ac y gellir eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd; a bod
• gwasanaethau’n amddiffyn rhyddid mynegiant.
Nid oes ots ble rydych chi neu'ch busnes wedi'ch lleoli, na pha mor fawr yw eich gwasanaeth. Bydd y rheolau newydd yn berthnasol os oes gan eich gwasanaeth nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU, neu os yw’r DU yn farchnad darged.
Yn ogystal â bod yn berthnasol i sefydliadau o bob maint, mae'r rheolau hefyd yn berthnasol i unigolion sy'n rhedeg gwasanaeth ar-lein.
I gael gwybod mwy am y Ddeddf Diogelwch Ar-lein a sut mae'n berthnasol i chi, ewch I ofcom.org.uk/diogelwch-arlein.

Пікірлер
Demystifying the Online Safety Act risk assessments
20:56
Why no RONALDO?! 🤔⚽️
00:28
Celine Dept
Рет қаралды 117 МЛН
I Passed My Amateur Radio Foundation Licence - Tips I Found Useful
11:25
COSORI TwinFry - EASY CHRISTMAS DINNER
18:36
The Green Team
Рет қаралды 72
Generations react to vintage phones
5:16
Ofcom
Рет қаралды 471
Generations react to vintage phones #react
1:00
Ofcom
Рет қаралды 114