Рет қаралды 11,830
Bu Dafydd Iwan yn un o enwau mwyaf y byd canu Cymraeg ers y 60au, ac yn 2012, bu'n dathlu 50 mlynedd fel canwr, a chyhoeddwyd pecyn aml-CD sy'n cynnwys 219 o draciau i nodi'r achlysur.
Côr Cantata - Ers ei ffurfio yn 2006 ar gyfer cystadleuaeth Côr Cymru S4C, mae Côr Cantata yn mynd o nerth i nerth yn perfformio mewn cyngherddau led-led Cymru, ac yn codi arian tuag at achosion da yn y gymuned. Maent yn ddisgyblion, athrawon a chyn-ddisgyblion o Ysgol Gyfun y Strade. Hyd yma maent wedi codi dros £9,000 at elusennau amrywiol, ac maent yn cyfrannu'n helaeth i gyngherddau yn y gymuned.